Cinio Ysgol
Hoffem i’ch plentyn fanteisio ar y cyfle i fwyta prydau iachus, ardderchog trwy dderbyn cinio ysgol. Mae ein Cogydd Ysgol yn darparu bwydlen faith a bwydydd maethlon cytbwys ac mae’r disgyblion yn eu mwynhau.
Rydym yn Ysgol Bwyta’n Iach ac mae gennym dystysgrifau a gwobrau am hyrwyddo arfer dda ar gyfer iechyd a lles.
Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ysgol arlwyo di-arian parod ac mae holl daliadau a dewisiadau bwyd yn cael eu gwneud ar-lein drwy wefan ParentPay. Bydd pob rhiant yn derbyn manylion mewngofnodi a gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth wrth ddechrau yn yr ysgol.
Atgoffir rhieni bod rhaid archebu prydau ysgol ymlaen llaw, dewis bwyd a thalu ymlaen llaw.
Cinio Ysgol Rhad ac am Ddim
Os ydych yn meddwl fod eich plentyn yn deilwng i dderbyn prydau rhad ac am ddim, yna mae’n hanfodol i chi wneud cais i Neuadd y Sir, Caerdydd 02920 872938 neu e-bostiwch freeschoolmeals@cardiff.gov.uk.
O fis Medi 2023, bydd bob disgybl Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 4 yn gymwys i dderbyn prydau ysgol AM DDIM.
Cinio Pecyn
Os ydy eich plentyn yn dewis dod â brechdanau / bocs bwyd i’r ysgol, erfyniwn arnoch i sicrhau fod y pryd yn un iachus. Nid ydym yn caniatáu i’r plant i ddod â siocled, diod pefriog na losin i’r ysgol.