Cylch Meithrin Pwll Coch
Mae Cylch Meithrin Pwll Coch yn feithrinfa cyfrwng Cymraeg ar safle Ysgol Gymraeg Pwll Coch ers Medi 2020! Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau pennod newydd ar gyfer darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg yn ein cymuned ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r Cylch!
Rydym yn Gylch cynhwysol, croesawgar sy’n dathlu amrywiaeth ac rydym yn darparu sesiynau Cylch Meithrin yn y bore a phrynhawn, ynghyd â gofal cofleidiol amser cinio (Clwb Cinio) ar gyfer y feithrinfa yn Ysgol Pwll Coch. Yn y bôn, gallai eich plentyn fynychu'r Cylch Meithrin yn y bore, cael ei oruchwylio dros ginio yn y Clwb Cinio ac yna mynychu meithrinfa Ysgol Pwll Coch yn y prynhawn, neu fel arall.
Ffioedd:
Sesiwn Cylch Meithrin (bore neu brynhawn) £11.25
Clwb Cinio : £5.50
Byddwch yn gallu defnyddio eich talebau gofal plant, cynnig gofal plant ddi-dreth a chynnig gofal plant 30 awr yma.
Cyfeiriad E-bost Ceisiadau: cylch.meithrin@ysgolpwllcoch.cardiff.sch.uk
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!