Navigation
Home Page

Cwricwlwm Newydd i Gymru - A New Curriculum for Wales

Cwricwlwm newydd i Gymru
A new curriculum for Wales

Cwricwlwm newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.

Cwricwlwm newydd i Gymru:
 

Ar 22 Hydref 2015, cyhoeddodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes, sef cynllun i fwrw ymlaen â'r argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus.

 

Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy'n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda'n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae'r pedwar diben, sy'n rhoi'r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
     

Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:

• 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16

• 3 cyfrifoldeb traws-gwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

• camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16

• deilliannau cyrhaeddiad sy'n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.

 

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

• Celfyddydau mynegiannol

• Iechyd a lles

• Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)

• Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng
  Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed, a)

• Mathemateg a rhifedd

• Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).
 

Llinell Amser:

Isod rydym yn nodi'r cerrig milltir allweddol lefel uchel:

 

2015 - 2016: Sefydlu rhwydwaith ysgolion arloeswyr y cwricwlwm.

 

2015 - 2018: Dylunio a datblygu’r cwricwlwm newydd.

 

Medi 2016: Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael.

 

2017 - 2021: Cymorth ymarferol i ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

 

Gorffennaf 2018: Yn genedlaethol, bydd dysgu proffesiynol cyson ar gael i bob

ymarferwyr ledled Cymru.

 

Medi 2018: trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd ar gael.

 

Medi 2021: trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd yn ei le.

 

A new curriculum for Wales

This is an exciting time for the young people of Wales. A new Curriculum for Wales is coming that will enthuse learners from 3 to 16, giving them the foundations they need to succeed in a changing world.

A new curriculum for Wales:

On 30 June 2015, the Minister for Education and Skills announced that the Welsh Government would accept, in full, all of the recommendations set out in Successful Futures, Professor Graham Donaldson’s independent review of the curriculum and assessment arrangements in Wales.  Building on the Digital Pioneers model announced on 10 June 2015, this document sets out how, working in a new way with schools, local authorities, regional consortia, Estyn, leading academics and employers as well as other key stakeholders we will together build our new curriculum in Wales.

 

The 4 purposes will be at the heart of our new curriculum. They will be the starting point for all decisions on the content and experiences developed as part of the curriculum to support our children and young people to be:

  • ambitious, capable learners ready to learn throughout their lives;
  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work;
  • ethical, informed citizens of Wales and the world;
  • healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

 

Key elements

 

The new curriculum will include:

  • 6 Areas of Learning and Experience from 3 to 16;
  • 3 cross curriculum responsibilities: literacy, numeracy and digital competence;
  • progression reference points at ages 5, 8, 11, 14 and 16;
  • achievement outcomes which describe expected achievements at each progression reference point.

 

The curriculum will be organised into 6 Areas of Learning and Experience:
  • Expressive arts;
  • Health and well-being;
  • Humanities (including RE which should remain compulsory to age 16);
  • Languages, literacy and communication (including Welsh, which should remain compulsory to age 16, and modern foreign languages);
  • Mathematics and numeracy;
  • Science and technology (including computer science).

 

Timeline

Below we set out the high level key milestones:

2015 - 2016: Pioneer Network established


2015 - 2018: Design and development phase of the new curriculum


July 2016: All New Deal Pioneer Schools will have developed their individual action

                  plans


September 2016: Digital Competence Framework available


2017 - 2021: Practical support to schools to prepare for the new curriculum


July 2018: Nationally, a consistent professional learning offer will be available to all

                   practitioners across Wales

 

September 2018: New curriculum and assessment arrangements available

 

September 2021: New curriculum and assessment arrangements in place

Mr Chris Newcombe (Pennaeth) yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru mewn cynhadledd 'Cyflawniad i bawb' yng Nghaerdydd. Mr Chris Newcombe presenting the new Wales curriculum at an 'Achievement for All' conference in Cardiff.

Mr Chris Newcombe (Pennaeth) yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru mewn cynhadledd 'Cyflawniad i bawb' yng Nghaerdydd. Mr Chris Newcombe presenting the new Wales curriculum at an 'Achievement for All' conference in Cardiff. 1

Gweinidog yn derbyn "Dyfodol Llwyddiannus" yn llawn - Minister accepts "Successful Futures" in full

Former Minister for Education and Skills, Huw Lewis, announced that Welsh Government will accept all 68 recommendations in "Successful Futures", Professor Graham Donaldson's far-reaching, independent report on curriculum and assessment arrangements in Wales.

Professor Donaldson delighted his recommendations have been accepted

Professor Graham Donaldson is delighted that the Minister for Education and Skills has accepted all 68 recommendations in his "Successful Futures" report on curriculum and assessment arrangements in Wales.

The New Curriculum for Wales - Cwricwlwm Newydd i Gymru - Pupils Quiz Professor Donaldson

Description


Top